Find out more about studying Bioleg gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University? We've gathered all the key details, entry requirements, modules, fees, and more. Take the next step by booking an open day to explore it for yourself.
Postgraduate Certificate in Education - PGCE
Main Site
Full Time
Sep 2026
1 Year
UCAS Code: 3F5M
TAR Uwchradd - Bioleg gyda GAA (gyda SAC)Ydych chi’n angerddol am Fioleg a phopeth byw ac a allech chi drosglwyddo'r angerdd hwn i eraill? Gogledd Cymru yw’r lle perffaith i ddysgu i ysbrydoli eraill am Fioleg gydag amrywiaeth o amgylcheddau bendigedig ar garreg ein drws o lynnoedd, coedwigoedd a mynyddoedd i afonydd a thraethau yn llythrennol ar garreg ein drws a phrifysgol sy’n rhagori mewn dysgu awyr agored. Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os mai dysgu Bioleg yw'r yrfa i chi, yna Bangor yw'r lle i chi. Gyda'n labordai addysgu newydd, staff angerddol, ac ysgolion partneriaeth gwych byddwch yn dysgu'r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i ysbrydoli eraill. Yma ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro/athrawes Bioleg rhagorol, ond hefyd yn athro/athrawes gwyddoniaeth, trwy roi cyfle i chi archwilio agweddau eraill ar y Cwricwlwm Gwyddoniaeth. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar un o’r cwricwla newydd mwyaf cyffrous y byd ar hyn o bryd, y Cwricwlwm newydd i Gymru, ond bydd y sgiliau y byddwch yn eu hennill yn eich paratoi i addysgu yn unrhyw le.
Pam astudio gyda ni?• Ble gwell i astudio ar gyfer eich cymhwyster TAR Bioleg nag yma ym Mangor, gyda'n hamrywiaeth unigryw o amgylcheddau, ein profiad o ddysgu yn yr awyr agored a phrifysgol gyda dwy ysgol ddysgu gwyddorau biolegol. • Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig. • Cyfle i astudio tra'n ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n ddefnyddiwr rhugl o'r iaith. Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae'n drosglwyddadwy ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwys gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.
Bangor University offers an exceptional experience set amidst the captivating landscapes of North Wales, where courses s...