imageplaceholder

Celf - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)
Bangor University

Student rating
(4.4)

Find out more about studying Celf - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University? We've gathered all the key details, entry requirements, modules, fees, and more. Take the next step by booking an open day to explore it for yourself.

Different course options

DATA SOURCE:
UNISTATS, UCAS
academic-cap
Qualification

Postgraduate Certificate in Education - PGCE

academic-cap
Location

Main Site

academic-cap
Study mode

Full Time

academic-cap
Start date

Sep 2026

academic-cap
Duration

1 Year

Jump to

  • -
  • -
  • -

Course info

UCAS Code: 3D3G


TAR Uwchradd - Celf (gyda SAC)

Does dim rhaid i chi fod yn Artist i fod yn Athro Celf – mae'r pwyslais ar ysbrydoli eraill i weld yr annisgwyl a’r gallu i godi cwestiynau caeëdig ar weithiau Celf! O fewn ein rhaglen Celf TAR Uwchradd fe ganolbwyntir ar ddatblygu Athrawon Celf chwilfrydig a mentrus. Byddwch yn ymroi i ddarlithoedd, seminarau a phrofiad arsylwi ac addysgu lle y byddwch wedi meddu ar sgiliau cyfoethog ar sut i gydweithio, arwain, ymateb a pharatoi gwersi heriol fel athro Celf creadigol ac arloesol. Yma ym Mangor byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro Celf rhagorol, ond hefyd yn athro’r Celfyddydau Mynegiannol, trwy roi’r cyfleoedd i chi archwilio agweddau o’r Cwricwlwm i Gymru a’r Medrau fel eich bod yn rhoi ffocws cadran wrth gynllunio gwersi cyffrous a chyfoethog.


Pam Astudio gyda Ni?

· Does unlle gwell i astudio eich cymhwyster TAR Celf nag yma ym Mangor, lle mae posibl astudio’n ddwyieithog, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg – yn sicr, gall hyn agor drysau ar gyfer swyddi dros Gymru ac ymhellach. Heb amheuaeth, mae gennym naws gartrefol sy’n meithrin myfyrwyr Celf hapus, diymhongar a hyderus. Bydd gennych fynediad at adnoddau cyfoethog megis orielau ac amgueddfeydd Celf lleol ac atyniadau o harddwch naturiol yn Ngogledd Cymru i'ch ysbrydoli wrth i chi baratoi ar gyfer eich gyrfa newydd gyffrous mewn addysg. · Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn trosglwyddo'r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn addysgwyr effeithiol ar gyfer y dyfodol. Cewch brofiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich cynnydd a chyflawniad tuag at Statws Athro Cymwysedig. · Bydd cyfle i astudio meysydd penodol o ran rheoli ymddygiad yn gadarnhaol; gwahaniaethu strategol; dadansoddi theoriau damcaniaethwyr a chynllunio ar gyfer amgylchedd dysgu diogel a chyfforddus.
• Byddwn yn herio ac yn ysgogi drwy rol fodelu o ran datblygu’r medrau o fewn gwersi er mwyn sicrhau ffocws ar gywirdeb a phatrymau iaith cyfoethog gyda hyn fe roddir ystyriaeth gref ar strategaethau asesu i gydymffurfio ag Amser Gwella a Myfyrio (AMG).
• Mae lles, gofal, cymorth ac arweiniad yn flaenriaeth gennym er mwyn i bob myfyriwr deimlo’n hapus a diogel, a thrwy hynny arddangos agweddau cadarnhaol at ddysgu. Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae'n drosglwyddadwy ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwys gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw


Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored.

Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am


3F5L

.

Key stats
academic-cap
Complete University Guide ranking
55th
academic-cap
Complete University Guide Education ranking
25th
Tuition fees
Student living
£9,790 per year
Students from Domestic

DATA SOURCE:
UCAS / IDP Connect

Uni info

Bangor University offers an exceptional experience set amidst the captivating landscapes of North Wales, where courses s...

Student rating
(4.4)
View reviews
CUG ranking 55th
Bangor University
Bangor UniversityBangorLL57 2DGUnited Kingdom