imageplaceholder

Cymraeg gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)
Bangor University

Student rating
(4.4)

Find out more about studying Cymraeg gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University? We've gathered all the key details, entry requirements, modules, fees, and more. Take the next step by booking an open day to explore it for yourself.

Different course options

DATA SOURCE:
UNISTATS, UCAS
academic-cap
Qualification

Postgraduate Certificate in Education - PGCE

academic-cap
Location

Main Site

academic-cap
Study mode

Full Time

academic-cap
Start date

Sep 2026

academic-cap
Duration

1 Year

Jump to

  • -
  • -
  • -

Course info

UCAS Code: 3F5J


TAR Uwchradd - Cymraeg gyda GAA (gyda SAC)

Mae bod yn athro/awes Cymraeg yn broffesiwn gwerth chweil. Dewch i rannu eich angerdd a’ch diddordeb yn yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth gyda’r to ifanc. Dewch i wneud y Gymraeg yn fyw a pherthnasol iddynt yn eu bywydau bob dydd a sicrhau fod Cymraeg pawb yn cyfri boed hwy’n siaradwyr Cymraeg rhugl neu yn siaradwyr ar dwf. Bydd cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a phrofiad ymarferol mewn ysgolion yn rhoi dealltwriaeth gadarn i chi o sut mae disgyblion yn dysgu. Bydd y cyfleoedd i ymchwilio, arsylwi athrawon fel modelau rôl a chyd drafod a chynllunio’n broffesiynol yn eich arfogi i arbrofi â’r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddatblygu fel athro/awes Cymraeg creadigol ac arloesol. Yma, ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro Cymraeg rhagorol, ond hefyd yn athro/awes Ieithoedd. Gwneir hyn trwy roi’r cyfleoedd i chi archwilio agweddau eraill o’r Cwricwlwm Ieithoedd, fel eich bod yn gwbl barod i gwrdd ag anghenion y Cwricwlwm i Gymru a chynorthwyo disgyblion i ddefnyddio a chymhwyso eu medrau llythrennedd Cymraeg ymhob pwnc a maes dysgu. Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant.


Pam astudio gyda ni?

- ‘Does unman gwell nag ardal y Brigfysgol ym Mangor i gael profiadau cyforiog o ddiwylliant a llenyddiaeth Gymraeg draddodiadol a chyfoes yn ddaearyddol, hanesyddol a chymdeithasol. Bydd y cwrs TAR Cymraeg yn rhoi cyfle i chi adnabod potensial yr ardal leol fel cyd-destun real wrth gyflwyno’r Gymraeg mewn cymdeithas ddwyieithog a chymuned amlieithog. - Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Cydnebir gwaith ymchwil Prifysgol Bangor ym maes dwyieithrwydd ar lefel rhyngwaldol a byd-eang . Bydd modd i chi elwa ar hyn i ddatblygu gwybodaeth yn y maes ac wrth arbrofi ar lawr-dosabrth. - Mae ein hysgolion Arweiniol a Rhwydwaith ar draws rhanbarth y Gogledd yn cynrychioli gwahanol ardaloedd a gwahanol fathau o ddisgyblion o ran eu cefndiroedd Cymraeg. Bydd derbyn profiadau addysgu’r Gymraeg mewn dau leoliad gwahanol gyda mentoriaid hyfforddedig yn fodd i chi ddod i ddeall ffyrdd addysgu gwahanol er mwyn hybu a datblygu sgiliau Cymraeg disgyblion ag iddynt broffiliau iaith amrywiol. Dyma ddulliau trosglwyddadwy fydd yn eich paratoi, maes o law, at addysgu ar draws Cymru. - Cewch gyfle i gefnogi cyfoedion mewn dosbarthiadau iaith a derbyn cefnogaeth broffesiynol a phersonol wrth ddechrau’ch taith fel athrawon ac arweinwyr y Gymraeg y dyfodol mewn ysgolion. - Drwy’r cwrs ym Mangor cewch eich hannog i chwilio am bob cyfle i roi profiadau byw a chyfoes i ddisgyblion fwynhau defnyddio’r Gymraeg bob dydd mewn gweithgareddau allgyrsiol. Ymunwch gyda’r cwrs! Dewch i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a dod yn rhan greiddiol o’r ymgyrch i greu miliwn o siaradwyr. Awydd? Amdani!

Key stats
academic-cap
Complete University Guide ranking
55th
academic-cap
Complete University Guide Education ranking
25th
Tuition fees
Student living
£9,790 per year
Students from Domestic

DATA SOURCE:
UCAS / IDP Connect

Uni info

Bangor University offers an exceptional experience set amidst the captivating landscapes of North Wales, where courses s...

Student rating
(4.4)
View reviews
CUG ranking 55th
Bangor University
Bangor UniversityBangorLL57 2DGUnited Kingdom