Find out more about studying Daearyddiaeth gyda GAA - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University? We've gathered all the key details, entry requirements, modules, fees, and more. Take the next step by booking an open day to explore it for yourself.
Postgraduate Certificate in Education - PGCE
Main Site
Full Time
Sep 2026
1 Year
UCAS Code: 3F5R
TAR Uwchradd - Daearyddiaeth gyda GAA (gyda SAC)Mae ein rhaglen TAR Uwchradd Daearyddiaeth wedi’i datblygu i sicrhau bod myfyrwyr TAR yn: • Dysgu addysgu Daearyddiaeth uwchradd 11-18 yn y DU, gan gwmpasu'r Cwricwlwm Cenedlaethol, TGAU a Safon Uwch. • Datblygu yn athrawon adfyfyriol Daearyddiaeth ysgol uwchradd, gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC). • Defnyddio theori fel sail i ymarfer ystafell ddosbarth. • Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn am y cwricwlwm daearyddiaeth, cynllunio gwersi, addysgeg, dysgu, dilyniant, asesu, gwaith maes, system gwybodaeth ddaearyddol (GIS), adnoddau, materion dadleuol, gwerthoedd, ymarfer myfyriol a datblygiad proffesiynol. • Defnyddio materion a digwyddiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol cyfoes i gyflwyno cysyniadau, prosesau a syniadau allweddol. • Datblygu amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys gwaith maes, ymholi, GIS, rhifedd, llythrennedd a sgiliau trin data. Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a phrofiad ymarferol a fydd yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae disgyblion yn dysgu, ac yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddatblygu’n athrawon Daearyddiaeth creadigol ac arloesol. Yma ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro Daearyddiaeth rhagorol, ond hefyd yn athro’r Dyniaethau, trwy roi’r cyfle i chi archwilio agweddau eraill o gwricwlwm Y Dyniaethau, fel eich bod yn gwbl barod i ddiwallu anghenion Cwricwlwm i Gymru. Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant.
Pam astudio gyda ni?Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Cewch gyfle i astudio tra'n ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cewch hefyd gefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n ddefnyddiwr rhugl o'r iaith. Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwysedig gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.
Bangor University offers an exceptional experience set amidst the captivating landscapes of North Wales, where courses s...