Find out more about studying Saesneg - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) at Bangor University? We've gathered all the key details, entry requirements, modules, fees, and more. Take the next step by booking an open day to explore it for yourself.
Postgraduate Certificate in Education - PGCE
Main Site
Full Time
Sep 2026
1 Year
UCAS Code: 3D3N
TAR Uwchradd - Saesneg (gyda SAC)Mae ein rhaglen TAR Uwchradd Saesneg yn gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, profiad ymarferol a theithiau maes, gan roi dealltwriaeth ddofn i chi o sut y gallwch CHI ddod yn addysgwr y dyfodol a gwneud gwahaniaeth i fywydau plant.
Pam astudio gyda ni?· Ble gwell i astudio ar gyfer eich cymhwyster TAR Saesneg nag yma ym Mangor yng Ngogledd Cymru, sy’n ardal enwog am farddoniaeth a stori, a’i amgylchoedd naturiol syfrdanol – y mynyddoedd a’r môr – sydd wedi ysbrydoli a rhyddhau’r dychymyg ers canrifoedd. · Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn darparu’r sgiliau, y wybodaeth a'r profiadau sydd eu hangen arnoch i ddatblygu fel athro ac arweinydd arloesol a chreadigol. · Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, yn ogystal â dau Leoliad Ysgol, yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig. Ym Mangor, byddwn yn sicrhau eich bod yn gwbl barod i ddiwallu anghenion Cwricwlwm i Gymru, sef cwricwlwm newydd a chyffrous. · Rydym hefyd yn rhoi’r cyfle i chi gael eich trochi yn y Gymraeg a’i diwylliant amrywiol, gyda chefnogaeth broffesiynol i ddysgu’r Gymraeg – p’un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu’n ddefnyddiwr rhugl o’r iaith. Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf! Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai’r rhai sy’n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwysedig gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.
Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored.Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am
3F5P.
Bangor University offers an exceptional experience set amidst the captivating landscapes of North Wales, where courses s...