Find out more about studying Ieithoedd Modern (TAR Uwchradd - Graddedigion yn unig) at University of Wales Trinity Saint David? We've gathered all the key details, entry requirements, modules, fees, and more. Take the next step by booking an open day to explore it for yourself.
Postgraduate Certificate in Education - PGCE
SA1 Waterfront Campus, Swansea
Full Time
Sep 2026
1 Year
Ysbrydolwch y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr iaith gyda’n cwrs TAR Uwchradd Ieithoedd Tramor Modern. Mae’r rhaglen hon, sy’n rhan o ‘n harlwy Addysgu Gychwynnol Athrawon (AGA) wedi’i chynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa foddhaus fel athro iaith, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC). Byddwch yn cael eich dysgu yn y brifysgol a lleoliadau ymarferol mewn ysgolion, gan ganolbwyntio ar ddulliau dysgu, cynllunio ac asesu creadigol ac effeithiol. Bydd eich sgiliau iaith personol, p’un a ydynt yn Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg neu iaith dramor fodern arall, wrth wraidd eich addysgu. Byddwch yn archwilio ffyrdd arloesol i ddod â’r ieithoedd i fyw yn yr ystafell ddosbarth, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau addysgu i ymgysylltu â disgyblion a’u hysbrydoli. Yn ogystal, mae’r cwrs hwn yn cynnig y cyfle i brofi amgylcheddau addysgu gwahanol, gan gynnwys lleoliadau mewn ysgolion trefol a gwledig, yn ogystal ag ysgolion Cymraeg, gan roi persbectif eang i chi ar addysg. Mae’r cwrs yn cwmpasu addysgu gwyddoniaeth gyffredinol ac arbenigo mewn bioleg ar gyfer TGAU a Safon Uwch. Cewch brofiad o amrywiaeth o sefydliadau addysgu drwy leoliadau trefol a gwledig, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae profiad addysgu proffesiynol (PAP) a chymorth mentoriaid yn hanfodol, gan eich helpu i dyfu fel addysgwr. Mae cymorth ariannol ar gael drwy fwrsariaethau ac ysgoloriaethau. Mae’r cwrs hwn wedi’i ddynodi gan Lywodraeth Cymru yn faes pwnc blaenoriaeth uchel, ac mae bwrsariaethau o £15,000 ar gael.